1 Aerblanc yw Gruffydd eirblyg
2 a bwa creft cyd bo cryg
3 seuthu ymay way wahawdd
4 pob nod nid rhydd ir Pab nawdd
5 ac odid elynwrid liw
6 vn a vedr anaf ydiw
7 ond dwyn y gerdd wrthwyneb
8 y glod yn anglod i neb
9 petwn heb ynof angerdd
10 oydvedw coed advydig cerdd
11 llai cywilidd oedd iddaw
12 ddial vy llid ddal vy llaw
13 nog edliw ym gyflym gawdd
14 vymrhudded vymar haeddawdd
19 pe bai Fyrch nid llwyrgyrch llesg
20 dan aeliae dyn anolesg
21 ef a eill tavawd wawd nar
22 gwan vnben agwenwynbar
23 dygyvor y digovaint
24 dan i vron a dwyn i vraint
15 o chafas y gwas wg wen
16 vrdd newydd ar ddwyn awen
17 ysgil eto ysgwelwyf
18 ysgeulus vydd novus nwyf
29 dyn ydwyf dianvdon
30 a vv gan wreigdda o von
31 yna cad oervad yrfa
32 mab cryg nid mewn diwyg da
33 [365] Gruffudd liw deurudd difrwd
34 mold cwn vab mold y cwd
35 gwas i gleifion vwch Conwy
36 gwn gwn pam na wypwn pwy
25 haws yngwynedd oedd weddu
26 tad i Vleddyn or dyn du
27 nog efo hwylio heli
28 o dud Mon yn dad i mi
47 ef a eill gwifr a ddifrych
48 cern oer gael llonaid corn ych
49 ni wnai oni mynnai dwyll
50 bod dygymod dig amwyll
51 to llingarth tywyll angerdd
52 Tudur goch taw di ar gerdd
53 grawys enau groesanaeth
54 gravil mefl a fu wefl waeth
55 Rywyr gas rhwyf argyswr
56 rhefr gwydd gad rhofi ar gwr
Dauid ap Gwilim